Mae cyflwyno Bil Aer Glân newydd yn foment hanesyddol i Gymru – ac i fywydau pobl Cymru!
Mae Awyr Iach Cymru yn croesawu’r newyddion bod Bil Aer Glân wedi’i gynnwys yn natganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog, a gyhoeddwyd heddiw (pumed o Orffennaf 2022).
I’r glymblaid o sefydliadau ac elusennau sydd wedi bod yn ymgyrchu am y bil hwn ers tro byd, a’r gymuned ehangach sydd wedi’i heffeithio gan aer gwenwynig, mae hir ymaros wedi bod am y newyddion hwn – am ddeddf newydd sy’n sicrhau bod yr aer a anadlwn yng Nghymru yn lân ac yn iach.
Bydd gwaith yn dechrau ar y bil yn ystod blwyddyn nesaf y Senedd (2022/3).
Dywedodd Joseph Carter, Cadeirydd Aer Cymru a Phennaeth Asthma + Lung UK Cymru
“Roedd heddiw yn fuddugoliaeth fawr ar gyfer ysgyfeintiau Cymru. Gwrandawodd Llywodraeth Cymru arnom, gan ddod â’r bil i rym. A nawr rydym gam yn nes at ddyfodol glanach, mwy gwyrdd – dyfodol sy’n mynd i’n galluogi ni i gerdded lawr y stryd yn gwybod bod yr aer rydym yn ei hanadlu yn lân ac yn iach ac yn gwybod na fydd yn cael effaith ar ein hiechyd nac yn byrhau ein bywydau!”
“Pan fyddwn ni’n edrych yn ôl, byddwn yn ystyried y Bil Aer Glân hwn fel moment gwirioneddol hanesyddol. Fydd ein plant a’n hwyrion ddim yn gallu credu pa mor fudr a llygredig oedd ein haer ni, a pham wnaethon ni ddioddef hyn cyhyd! Fydd llygredd aer ddim yn lladdwr mud mwyach, oherwydd bydd gennym ddeddfwriaeth a therfyniadau ansawdd aer llym y gallwn eu gorfodi, ac mae hyn yn rhywbeth i’w ddathlu.
“Mae’n cymryd amser, wrth gwrs, i fil droi’n gyfraith, ac i roi’r ddeddfwriaeth ar waith yn llawn. Rydym yn gobeithio y bydd newidiadau yn digwydd yn gyflym. Ond mae heddiw yn arwyddocaol, oherwydd mae’r newid pwysig hwn er gwell ac rydym yn dechrau gweld y goleuni!”
Dywedodd Haf Elgar, Is-Gadeirydd Awyr Iach Cymru a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Mae llygredd aer yn ddrwg i’n hiechyd, ac, fel mae ymchwil ddiweddar wedi dangos, ein cymunedau mwyaf bregus yr effeithir arnynt fwyaf. Mae hefyd yn ddrwg i’n planed, wrth i’r cynnydd mewn allyriadau sy’n newid yr hinsawdd gael effaith ar natur a chymunedau yng Nghymru a ledled y byd.
“A dyna pam rydym angen deddf Aer Glân cyn gynted â phosib – er mwyn sicrhau bod llygredd aer yn cael sylw priodol yn ein hanes. Mae heddiw yn gam pwysig ar y siwrnai tuag at Gymru lanach, fwy gwyrdd.”
Mae llygredd aer yn cyfrannu tuag at oddeutu 2,000 o farwolaethau cynnar ac yn costio GIG Cymru bron i £1 biliwn yn flynyddol.
Cyn Diwrnod Aer Glân Cymru’r mis diwethaf, mynychodd 30 o Aelodau’r Senedd o bob plaid wleidyddol, ddigwyddiad wedi’i drefnu gan Awyr iach Cymru er mwyn ailafael yn yr ymgyrch dros gyflwyno deddfwriaeth aer glân yn ogystal â chyflwyno targedau ansawdd aer uchelgeisiol.