MAE AWYR IACH CYMRU YN AMLINELLU EU GWELEDIGAETH AR GYFER ADFERIAD GWYRDD WEDI COVID-19

Rhyddhaodd Awyr Iach Cymru ei ddatganiad heddiw (dydd Iau, Mehefin 4ydd), yn amlinellu eu nodau a’u gweledigaeth ar gyfer Cymru ôl–Covid-19. Mae Awyr Iach Cymru yn gynghrair o sefydliadau a mudiadau o wahanol sectorau sy’n ymgyrchu dros ansawdd aer gwell yng Nghymru. Nod y datganiad heddiw yw nodi sut y gallwn ddefnyddio’r cyfleoedd a gyflwynir gan Covid-19 i ail-lunio ein cymdeithas …