Mae dros 30 o sefydliadau yn ysgrifennu at y Senedd i fynnu Bil Amgylchedd cryfach
Mae Asthma + Lung UK, Cyfeillion y Ddaear Cymru a’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ymhlith 36 o lofnodwyr sy’n galw ar i aelodau’r Senedd bleidleisio dros gryfhau deddfwriaeth awyr iach ddydd Mawrth 21 Tachwedd, pan gaiff diwygiadau i Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) eu trafod.
Yn ôl ymgyrchwyr aer glân, nid yw’r ddeddfwriaeth yn mynd yn ddigon pell, hyd yn oed wrth ystyried y diwygiadau a basiwyd hyd yn hyn.
Mewn llythyr agored a gyhoeddwyd heddiw (21 Tachwedd 2023), mae’r grŵp hwn o sefydliadau iechyd a sefydliadau amgylcheddol yn annog aelodau’r Senedd i gefnogi galwad Awyr Iach Cymru i gynnwys targed ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2) ym Mil yr Amgylchedd.
Medd Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma + Lung UK Cymru:
“Mae nitrogen deuocsid yn nwy gwenwynig sy’n dod allan o bibellau egsôst ceir a cherbydau eraill pan fo’r injans yn troi. Gall y nwy hwn lidio leinin eich llwybrau anadlu. Mae pobl â chyflyrau sy’n effeithio ar eu hysgyfaint a’u calon, yn ogystal â phlant, sydd â’u hysgyfaint a’u hymennydd yn dal i ddatblygu, yn arbennig o agored i niwed. Dyna pam mae hi mor bwysig inni osod targedau ar gyfer NO2. Mae bywydau pobl yn dibynnu ar hyn.”
Yn ôl Haf Elgar, Is-gadeirydd Awyr Iach Cymru a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Dyma gyfle ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ i lanhau ein haer, felly mae angen i ni gael targedau ar gyfer NO2 a llygryddion peryglus eraill, nid ar gyfer PM 2.5 yn unig. Er lles ein plant, ein cymunedau bregus, a’n planed, rydym yn annog aelodau’r Senedd i bleidleisio dros gael Bil yr Amgylchedd cryfach.”
Mae llygredd aer yn cyfrannu at farwolaethau oddeutu 2000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru, ac mae’n argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae’n effeithio’n anghymesur ar ein plant a’n pobl ifanc a hefyd ar gymunedau sy’n fwyaf agored i niwed, ac mae allyriadau sy’n newid yr hinsawdd yn ddrwg i natur ac i iechyd ein planed.
Nod Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a gyflwynwyd gerbron y Senedd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2023, yw lleihau’r effaith a gaiff llygredd aer ar wahanol bethau, yn cynnwys iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a’n heconomi.
Bydd gan Weinidogion ddyletswydd i osod targedau ansawdd aer ar gyfer PM 2.5 (gronynnau mân), gan osod y ddyletswydd hon ar sail canllawiau diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd. Ond ar hyn o bryd, ni roddir dyletswydd ar ysgwyddau’r llywodraeth hon na llywodraethau’r dyfodol i osod targedau ar gyfer lygrydd mor beryglus â nitrogen deuocsid (NO2).
Bydd cam 3 y drafodaeth ynghylch Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yn cael ei gynnal ar 21 Tachwedd. Disgwyliwn y bydd y bil yn cael ei basio cyn diwedd y flwyddyn ac y bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol yn gynnar yn 2024.