Ein maniffesto
Yn 2021 cefnogodd pob plaid ddeddfwriaeth arloesol i lanhau ein haer. Ar gyfer 2026, mae gennym ni un gofyniad – cyflawni’r addewid hwn drwy weithredu Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
Byddai gweithredu’r ddeddf hon yn…
1. Lleihau llygredd cerbydau
- Sicrhau bod gan holl drigolion Cymru fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd, fforddiadwy a hygyrch.
- Cyflwyno’r fenter strydoedd ysgol yn genedlaethol, gan sicrhau mynediad digonol i fyfyrwyr anabl a’r rhai sydd angen teithio mewn tacsi.
- Gwella seilwaith i hwyluso teithio llesol i’r ysgol lle nad yw strydoedd ysgol yn ymarferol.
- Gweithredu Parthau Aer Glân gydag ystyriaeth ofalus i grwpiau dan anfantais economaidd a phobl anabl.
- Cyflwyno cosbau digonol ar gyfer segura cerbydau.
2. Lleihau llygredd diwydiannol a gwledig
- Datblygu strategaethau diwydiannol a gwledig sy’n ceisio lleihau effaith llygredd aer.
- Sicrhau bod diwydiannau a busnesau yn ystyried trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer staff.
- Cyflwyno Ardoll Parcio yn y Gweithle i atal pobl sy’n gyrru i’r gwaith.
- Cyflwyno cynlluniau sgrapio i helpu busnesau a ffermwyr i ddatgarboneiddio cerbydau
3. Mynd i’r afael â llosgi domestig
- Gwahardd gosod stofiau newydd mewn cartrefi ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.
- Dileu llosgi coed domestig mewn ardaloedd trefol, cynorthwyo trigolion gwledig i symud oddi wrth bren fel prif ffynhonnell wresogi, a chefnogi’r rhai mewn tlodi tanwydd gyda chymorth cost tanwydd.
- Cyflwyno Ardaloedd Rheoli Mwg (SCAs) ledled y wlad gydag eithriadau ar gyfer cymunedau gwledig yn unig.
4. Cynyddu ymwybyddiaeth o lygredd aer
- Datblygu cyfres o ymgyrchoedd newid ymddygiad ar drafnidiaeth gynaliadwy, segura cerbydau, llosgi domestig a pheryglon iechyd cyffredinol llygredd tu fewn a thu allan a gwerthuso’r effaith
- Defnyddio rhybuddion iechyd cyhoeddus fel bod pobl sy’n byw ym mhob rhan o Gymru yn ymwybodol o lefelau llygredd lleol a sut i leihau’r effaith ar eu hiechyd.
- Dylai sector cyhoeddus Cymru arwain drwy esiampl, gan gefnogi staff i wneud newidiadau cadarnhaol a lleihau llygredd aer mewn cerbydau ac adeiladau.
5. Gwella monitro
- Sefydlu rhwydwaith monitro sy’n defnyddio’r holl ddata lleol a chenedlaethol wedi’i fodelu a’i fonitro.
- Galluogi data llygredd aer i fod yn ffynhonnell agored ac yn hygyrch i bawb.
- Ariannu’r gwaith o gyflwyno monitorau PM2.5 a NO2 ym mhob ysgol ac adeiladau’r GIG a rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol gau neu ddargyfeirio ffyrdd pan fydd llygredd aer ger ysgolion yn fwy na’r terfynau.