Deddf Teithio Llesol – digwyddiad 10fed pen-blwydd yn amlygu’r gwaith sydd eto i’w wneud
Wrth i Ddeddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru nesáu at ei 10fed pen-blwydd, cynhaliwyd digwyddiad arbennig i nodi ei chynnydd a nodi meysydd lle mae angen rhagor o waith.
Trefnwyd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal o amgylch Adeilad y Pierhead, Caerdydd ddydd Mercher (Hydref 4), gan Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ddeddf Teithio Llesol. Roedd yn cynnwys trafodaeth banel gyda Chomisiynydd Teithio Llesol Lloegr a’r cyn-seiclwr Olympaidd Chris Boardman MBE a gweithdai gan nifer o sefydliadau o’r sector trafnidiaeth gynaliadwy a thu hwnt.
Roedd Aelodau’r Senedd o’r pedair plaid yn bresennol, gan gynnwys y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters AS.
(Chwith: Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn siarad yn y digwyddiad ar risiau’r Senedd).
Pan gafodd y ddeddf ei phasio yn 2013, cynlluniwyd y Ddeddf Teithio Llesol i wneud cerdded a beicio y dulliau teithio ffafriedig y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, mewn ymateb i gyfraddau cynyddol a anweithgarwch corfforol. Trwy leihau nifer y ceir ar y ffordd, nod y ddeddf hefyd oedd cyflawni buddion economaidd ac amgylcheddol, megis lleihau tagfeydd ac allyriadau.
Fodd bynnag, datgelodd adroddiad a gyhoeddwyd gan y grŵp trawsbleidiol y llynedd fod cyfraddau cerdded a beicio wedi aros yr un fath ac fe wnaed 51 o argymhellion ar gyfer gwella effeithiolrwydd y ddeddf, gan gynnwys cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwneud llwybrau teithio llesol yn fwy hygyrch i bobl anabl.
Ymhlith y sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad yw RNIB Cymru, a fydd, ochr yn ochr â Living Streets Cymru, yn arwain gwesteion ar daith gerdded er mwyn amlygu’r heriau y mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hwynebu wrth deithio ar droed.
Dyweddod Ansley Workman, cyfarwyddwr RNIB Cymru:
“Dyn ni’n edrych ymlaen at ymuno â’n ffrindiau mewn sefydliadau eraill i nodi 10 mlynedd ers y Ddeddf Teithio Llesol. Credwn ddylai pawb gael y cyfle i gerdded, olwyno a seiclo’n ddiogel ac yn annibynnol, ond mae llawer o rwystrau yn bodoli o hyd i bobl ddall ac â golwg rhannol sy’n teithio yng Nghymru.
“Byddwn yn dangos yn uniongyrchol i’r gwesteion ychydig o’r heriau mae pobl sydd gyda cholled golwg yn eu hwynebu, fel palmant anwastad, annibendod stryd a cherbydau wedi’u parcio ar balmentydd. Gobeithiwn fydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n gallu atal pobl gyda cholled golwg rhag ymgysylltu â theithio llesol ac agor trafodaethau ynghylch sut y gallwn symud ymlaen.”
Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad roedd Cycling UK, sefydliad sy’n arwain taith feicio fawr o Pedal Power ym Mhontcanna i fyny i’r Senedd.
Dywedodd Gwenda Owen, Swyddog Arweiniol Cymru ar gyfer Cycling UK:
“Dyn ni wedi bod yn ymgyrchu dros feicio ers dros 140 o flynyddoedd ac roeddem wrth ein bodd pan ddaeth y Ddeddf Teithio Llesol i rym 10 mlynedd nôl, gan osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio a blaenoriaethu’r seilwaith ar gyfer cerdded a beicio.
“Dyn ni’n cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud ond mae angen i ni gyflawni ar gyflymder ac ar raddfa uwch os ydym am gyflawni’r newid sydd ei angen. Byddwn yn archwilio sut y gallwn ni fel ffrindiau beirniadol weithio’n fwy adeiladol gyda chynghorau i gyflawni hyn yn ystod ein gweithdy.”
Haf Elgar yw Is-Gadeirydd Awyr Iach Cymru, grŵp sy’n codi ymwybyddiaeth o effaith llygredd ar iechyd ac sy’n ymgyrchu dros bolisïau aer glanach yng Nghymru.
(Chwith: Haf Elgar ar y dde gyda Kirsty Luff, Swyddog Cyfathrebu Cyfeillion y Ddaear Cymru)
Dywedodd hi:
“Ddeng mlynedd ar ôl i’r Ddeddf Teithio Llesol ddod i rym, yr ydym yn fwy ymwybodol nag erioed o’r argyfwng hinsawdd yr ydym yn byw ynddo, a’r effaith mae llygredd aer yn ei chael ar ein hiechyd a’n lles.
“Mae hyn yn gwneud galluogi teithio llesol yn bwysicach fyth, ac rydym yn falch o rannu’r neges honno yn y digwyddiad arbennig hwn.”
Mae Huw Irranca-Davies AS yn arwain y grŵp trawsbleidiol a bydd yn cadeirio’r drafodaeth banel ar y diwrnod. Dywedodd ef:
‘Mae ein Deddf Teithio Llesol arloesol yng Nghymru wedi gosod sylfaen ardderchog ar gyfer gwneud cerdded a beicio yn opsiwn hawdd ar gyfer teithiau byrrach. Ond wrth i ni nesáu at ei 10fed pen-blwydd, mae angen i ni gyflymu’r gwaith er mwyn ein helpu ni fynd i’r afael â heriau enfawr newid hinsawdd, ansawdd aer gwael ac a chyflyrau iechyd sy’n deillio o anweithgarwch corfforol.
“Dyna pam rwy’n falch iawn o weithio gyda sefydliadau fel Pedal Power, Sustrans a holl aelodau eraill y CPGATA i nodi’r pen-blwydd gyda galwad am fwy o weithredu er mwyn cyflawni’n llawn yr uchelgeisiau a nodwyd gennym 10 mlynedd yn ôl.”
Mae’r daith gylchol a’r daith feicio yn digwydd o ganol dydd, gyda sgyrsiau a gweithdai yn dilyn trwy gydol y prynhawn. Gellir archebu tocynnau am ddim yma.