Ymgyrchwyr yn croesawu bil i lanhau aer peryglus Cymru
Mae Awyr Iach Cymru yn croesawu Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) a gyflwynir gerbron y Senedd heddiw.
I’r glymblaid o sefydliadau ac elusennau sydd wedi bod yn ymgyrchu am y bil hwn ers tro byd, a’r gymuned ehangach sydd wedi’i heffeithio gan aer gwenwynig, mae hir ymaros wedi bod am y newyddion hwn – am ddeddf newydd sy’n sicrhau bod yr aer a anadlwn yng Nghymru yn lân ac yn iach.
Medd Lynn Gazal o Gaerffili, sy’n rhiant i blant 10 oed a 6 oed:
“Rydym yn croesawu’r bil hwn yn fawr. Rydym yn byw yng Nghaerffili ac mae ein taith i’r ysgol yn mynd â ni trwy rai o’r darlleniadau ansawdd aer gwaethaf yng Nghymru, sydd uwchlaw terfynau Sefydliad Iechyd y Byd.
“Wrth gerdded trwy dagfeydd, rydw i’n dal fy ngwynt weithiau. Rydym wastad yn defnyddio lonydd cefn er mwyn osgoi’r mygdarthau. Yna, rydym yn gorfod wynebu maes parcio’r ysgol sy’n llawn ceir â’u hinjans yn dal i droi.
“Wrth yrru, rydym yn rhan o’r broblem oherwydd diffyg unrhyw opsiynau gwirioneddol gynaliadwy. Rydw i’n poeni am ysgyfaint fy mhlant a’r goblygiadau iechyd hirdymor i bob un ohonom.”
Medd Paula Dunster, Mam i ddau (pedair a saith oed) sy’n byw yng Nghaerdydd:
“Rwy’n falch iawn bod y bil hwn ar y ffordd i fod yn ei le ar gyfer Cymru. Rydyn ni’n cerdded neu’n beicio ein plant i’r ysgol i leihau ein heffaith ar yr aer rydyn ni’n ei anadlu. Rydym yn aml yn anghofio am ansawdd ein haer gan na allwn weld y llygryddion sydd o’n cwmpas. Mae hyn yn arbennig o wir am y gronynnau bach sy’n mynd i mewn i’n hysgyfaint a llif y gwaed.
“Rwy’n gobeithio y bydd y bil hwn yn helpu i hyrwyddo teithio llesol diogel, felly rydym yn llai dibynnol ar geir gan arwain at lai o dagfeydd o amgylch ysgolion a gwell ansawdd aer. Mae cael targedau a chamau gweithredu clir i wella ansawdd ein haer yn gamau gwych i’r cyfeiriad cywir.”
Medd Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma + Lung UK Cymru:
“Fe ddylen ni allu cerdded i lawr y stryd a gwybod bod yr aer a anadlwn yn ddiogel ac yn iach. Mae Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a gyflwynwyd gerbron y Senedd heddiw, yn gam hollbwysig o ran gwneud i hyn ddigwydd.
“Llygredd aer yw un o’r materion mwyaf taer a wynebwn mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd ac mae’n arbennig o niweidiol i’n plant, sydd â’u hysgyfaint yn datblygu. Mae’r ddeddfwriaeth aer glân nid yn unig yn newyddion eithriadol o dda i ysgyfaint trigolion Cymru, ond mae hefyd yn garreg filltir bwysig yn ein siwrnai tuag at ddyfodol gwyrddach, tecach ac iachach, lle byddwn yn cerdded ac yn beicio mwy ac yn defnyddio llai ar geir. Rydym yn galw ar bob plaid i weithio gyda’i gilydd i sicrhau y bydd y Bil hwn mor gryf â phosibl.”
Medd Haf Elgar, Is-Gadeirydd Aer Glân Cymru a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Rydym wedi ymgyrchu ers amser maith dros gael deddfwriaeth i lanhau’r aer. Mae cyflwyno’r bil hwn gerbron y Senedd yn gam mawr ymlaen.
“Nid problem o ran iechyd y cyhoedd yn unig yw llygredd aer; mae hefyd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol ac yn fater amgylcheddol. Mae’n effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas – y rhai sydd wedi cyfrannu leiaf at achosi’r broblem. Ac mae’n ddrwg i’r blaned, gan gyfrannu at allyriadau sy’n dinistrio’r hinsawdd.
“Ond yn awr, gallwn edrych tuag at amser pan fydd yr aer yn iach ac yn ddiogel. Bydd Awyr Iach Cymru ac eraill sy’n ymgyrchu dros aer glân yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth aer glân hon yn arwain at ddyfodol gwyrddach, tecach ac iachach i’r genhedlaeth bresennol ac i genedlaethau’r dyfodol.”
Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru:
“Gwyddom pa mor difethol mae llygredd aer yn profi i iechyd cyhoeddus yng Nghymru, yn effeithio’r mwyaf bregus, a dyna pam rydym yn galw am Fil Amgylchedd cryf. Yn Sustrans, rydym yn gweithio gyda chymunedau ac ar eu rhan i greu amgylchedd gwell i bawb, felly nid yw’n bosib gor-ddweud pwysigrwydd Bil sydd am flaenoriaethu awyr lan ar gyfer ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Joshua James, Rheolwr Materion Cyhoeddus Strydoedd Byw Cymru:
“Llygredd aer yw un o’r heriau amgylcheddol ac iechyd mwyaf yn ein hoes ac mae Strydoedd Byw Cymru yn gweld cerdded fel arf hanfodol i leihau’r traffig modur sy’n cynhyrchu cymaint o allyriadau.
“Dylai Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) nodi mesurau i fynd i’r afael â llygredd aer tra’n cydnabod y canllawiau byd-eang ar ansawdd aer.
“Gyda’n gilydd mae’n rhaid i ni flaenoriaethu aer glanach er mwyn i bawb yng Nghymru allu byw bywydau iachach.”