Papur gwyn Bil Aer Glân (Cymru) – ein hymateb

Heddiw (13 Chwefror 2021) lansiodd Llywodraeth Cymru ei phapur gwyn aer glân yn nodi cynlluniau ar gyfer Deddf Aer Glân i Gymru.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Joseph Carter, Cadeirydd Air Cymru a Phennaeth Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru:  

“Rydym yn falch bod y papur yn cynnwys mesurau i; gynyddu’r broses o fonitro ac asesu lefelau llygredd aer, i fynd i’r afael â’r broblem o gerbydau yn aros yn eu hunfan a’r injan yn troi, i atal llosgi yn yr awyr agored, a mwy. Croesawn hefyd yr ymrwymiad i adolygu’r cynllun bob 5 mlynedd. 

“Fodd bynnag, mae’r amserlen bresennol ar gyfer deddfu’r ddeddfwriaeth hon yn llawer rhy araf. Addawodd y Prif Weinidog gyflwyno Deddf Aer Glân eleni, cyn yr etholiad eleni. Nawr cawsom wybod y gallai fod mor hwyr â 2024 cyn i unrhyw reoliadau ddod i rym. 

“Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac iechyd cyhoeddus ac mae angen gweithredu arnynt nawr, nid mewn 3 blynedd. Os yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac adeiladu dyfodol glanach, gwyrddach ac iachach yn flaenoriaeth wirioneddol gan Lywodraeth Cymru – yna mae angen iddynt weithredu felly.