YMATEB AWYR IACH CYMRU I’R CYNLLUN AER GLÂN

Mae Awyr Iach Cymru wedi croesawu Cynllun Aer Glân i Gymru Llywodraeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau 6 Awst).

The coalition of health and environmental organisations called the plan ‘a huge step forward’ but urged the Welsh Government to do more for local communities to ensure they have the help they need.

“Mae’r Cynllun Aer Glân i Gymru yn gam enfawr ymlaen yn ein brwydr i lanhau ein haer a chreu Cymru fwy glân, iach a gwyrdd i bawb.

Dywedodd Joseph Carter Cadeirydd Aer Iach Cymru:

“Drwy ein gwaith fel rhanddeiliaid allweddol, gyda phartneriaid eraill, chwa o awyr iach yw gweld cynifer o’n syniadau ac awgrymiadau yn cael eu hystyried a’u hymgorffori yn y cynllun yn barod.

“Rydym yn hynod frwdfrydig i weld y cyfyngiadau 20mya yn dod yn gyfyngiad safonol yn y rhan fwyaf o lefydd trefol yng Nghymru, yn y dyfodol. Bydd nod mor feiddgar ac uchelgeisiol â hwn yn helpu i ddechrau’r newid sylweddol sydd ei angen arnom, nid yn unig i leihau lefelau llygredd aer ond hefyd i annog ffyrdd o fyw mwy iach ac actif drwy ei gwneud yn fwy diogel i bobl gerdded a beicio.

“Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar y cynigion hyn ac yn mynd ymhellach i gefnogi cymunedau. Gallwn gyflawni hyn drwy hyrwyddo cymdogaethau y mae modd byw ynddynt drwy gau strydoedd o amgylch ein hysgolion a hyrwyddo ffyrdd eraill o deithio, megis ymestyn cynlluniau beicio i’r gwaith ac ehangu palmentydd i gerddwyr a chadeiriau olwyn, er mwyn lleihau lefel y llygredd yn y llefydd yr ydym yn byw ynddynt.

“Wrth ymestyn y cynlluniau hyn, mae angen i ni sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb a chymryd i ystyriaeth y drefn newydd yr ydym yn byw ynddi bellach. Ers rhy hir nid yw nifer o’r cynlluniau hyn wedi bod ar gael i’n gweithwyr pwysicaf a mwyaf allweddol. Os ydym am weld y cynnydd enfawr sydd ei angen mewn teithio llesol i lanhau’r aer yn ein strydoedd trefol, yna mae angen i bawb gael cyfle i ddefnyddio’r cynlluniau a gwella isadeiledd fel bod dewisiadau eraill heblaw am y car yn fwy hyfyw o lawer.

“Mae nodau ac amcanion uchelgeisiol Llywodraeth Cymru; i gyflawni Cymru fwy glân, iach a gwyrdd, a lleihau lefelau PM2.5 a NO2  i fod yn is na chyfyngiadau Sefydliad Iechyd y Byd yn ganolog i’n brwydr i gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru – un sy’n berthnasol i bob plaid ac sy’n sicrhau ein bod yn cydweithio fel y gallwn anadlu aer glanach gydag ysgyfaint iachach.

“Mae’r cynllun yn bwriadu gwneud hyn drwy gasglu tystiolaeth a monitro gweithredol, rhywbeth yr hoffem ei weld yn ymestyn yn eang wrth i’r cynllun fynd rhagddo. Mae angen cefnogi hyn gyda mwy o fuddsoddiad ac ymchwil fel y gallwn sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau gorau i gymunedau ledled Cymru.”

Ychwanegodd Haf Elgar, Dirprwy Gadeirydd Awyr Iach Cymru:

“Mae’r Cynllun Aer Glan yn golygu bod angen gweithredu ar draws cyrff cyhoeddus, sectorau o’r economi, a ni i gyd i wireddu’r newidiadau rydyn ni gyd am weld a sicrhau gall pawb yng Nghymru anadlu awyr iach.

“Mae’r Cynllun Aer Glan yn golygu bod angen gweithredu ar draws cyrff cyhoeddus, sectorau o’r economi, a ni i gyd i wireddu’r newidiadau rydyn ni gyd am weld a sicrhau gall pawb yng Nghymru anadlu awyr iach.

“Rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar bod modd cyflawni newid yn gyflym, ac mae datblygiadau i alluogi pobl i gerdded a beicio yn ddiogel yn wych i’w gweld.

“Mae angen i ni symud i ffwrdd o ddefnyddio’r car a galluogi pobl ym mhob rhan o Gymru i gael mynediad i drafnidiaeth cyhoeddus yn ogystal a cherdded a beicio – er mwyn aer glan a’r argyfwng hinsawdd.”