DATGANIAD AWYR IACH CYMRU AR BAPUR GWYN TRAFNIDIAETH CYNGOR CAERDYDD

Datganiad Awyr Iach Cymru ar Bapur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd

Mewn ymateb i Bapur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Haf Elgar, Is-gadeirydd Awyr Iach Cymru; “Mae’n galonogol gweld tâl defnyddwyr ffyrdd yn cael ei gynnig yn y papur gwyn trafnidiaeth gan Gyngor Caerdydd heddiw. Roeddem yn teimlo bod hon yn elfen allweddol a oedd ar goll o’r cynllun aer glân ac rydym yn falch o weld bod ymrwymiad hirdymor i wella ansawdd aer yn rhan o weledigaeth y cyngor o ran trafnidiaeth.”

“Mae hyn yn ymwneud â lleihau allyriadau i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, gwella ansawdd aer i ddiogelu ein hiechyd a chreu dinas fwy glân, diogel ac atyniadol i fyw a gweithio ynddi. Mae’n rhaid i ni weld newid yn y ffordd rydym yn meddwl am deithio, a’r unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy gyflwyno ymyriadau beiddgar fydd yn helpu pobl i wneud y penderfyniadau gorau er eu lles eu hunain.”

“Mae hefyd yn galonogol gweld y bydd y tâl defnyddwyr ffyrdd ar draws y ddinas yn cael ei gefnogi gan drafnidiaeth gyhoeddus gwell a seilwaith teithio llesol, a fydd yn chwarae rôl allweddol wrth wneud y broses o symud at ddulliau cynaliadwy o deithio yn llawer mwy fforddiadwy a chyraeddadwy.”

“Byddai’n wych gweld gwaharddiad ar ddisel yn cael ei gyflwyno i’r amserlen weithredu, i sicrhau ein bod ni’n gwneud cymaint ag y gallwn i gael yr aer glanaf posib. Pan fo’n hiechyd, ein hamgylchedd a’n ffordd o fyw mewn perygl, mae gan bawb ran i’w chwarae er mwyn creu’r newid rydym angen ei weld.”

Diwedd

Ar gyfer ymholiadau pellach, cysylltwch â huw.cook@blf.org.uk, 07511900483.

Nodiadau:

Mae Awyr Iach Cymru yn gynghrair o sefydliadau cyfreithiol, academaidd a thrydydd sector sy’n ymgyrchu dros ansawdd aer gwell yng Nghymru. Rydym yn rhedeg y CPG ar Ddeddf Aer Glân Newydd ac yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i sicrhau eu bod nhw’n cyflwyno’r datrysiadau mwyaf cynaliadwy ac effeithiol ar gyfer argyfwng aer llygredig Cymru.

Gwefan Awyr Iach Cymru: http://healthyair.cymru/

Twitter Awyr Iach Cymru: @Healthy Air Cymru